Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru wedi galw ar Lywodraeth y DU i wrthdroi cynlluniau i ddiddymu ffioedd trwyddedau teledu a sicrhau bod dyfodol S4C yn ddiogel mewn unrhyw setliad ariannol yn y dyfodol.
Mae’r Arglwydd Roger Roberts, sy’n cynrychioli Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn Nhŷ’r Arglwyddi, wedi beirniadu’r bwriad arfaethedig i ddiddymu ffioedd trwyddedau teledu oherwydd gallai hynny fygwth dyfodol S4C.
Dywedodd yr Arglwydd Roger Roberts o Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru:
Ers ei sefydlu ym 1982, mae S4C wedi bod yn ffactor pwysig o ran hybu adfywiad ein hiaith a chynorthwyo â hynny.
Mae S4C yn rhan hanfodol o ddarlledu trwy gyfrwng y Gymraeg a bywyd gwleidyddol Cymru, a chaiff gwaith y sianel ei gynnal yn bennaf gan ffioedd trwyddedau teledu.
Os bydd y llywodraeth hon yn diddymu ffioedd trwyddedau teledu, bydd yr effeithiau ar S4C yn drychinebus. Rwy’n annog pob plaid i gydweithredu i amddiffyn ffioedd trwyddedau teledu a diogelu dyfodol darlledu yn Gymraeg.