Mae 2020 wedi bod yn flwyddyn anarferol, i ddweud y lleiaf. Mae sawl agwedd o’n bywyd – siopa, cwrdd â ffrindiau, gweithio ac addysg ein plant – bellach yn digwydd ar-lein. Rydym ni’n dibynnu ar ein cysylltiad â’r rhyngrwyd i brynu bwyd, i weithio, ac ar gyfer addysg ein plant.
Dyna pam mae penderfyniad y Llywodraeth Dorïaidd i droi cefn ar eu cynlluniau i sefydlu band eang gwell yn rhywbeth mor warthus. Cawsom ni addewid y byddai band eang cyflym ar gael i bawb yn y Deyrnas Unedig erbyn 2025; mae’n amlwg bellach mai celwydd oedd hynny.
Ar adeg pan mae COVID yn tarfu i’r fath raddau ar addysg ein plant, a phan mae cymaint o ddosbarthiadau yn troi at ddarpariaeth ar-lein, nid yw cysylltiad band eang cyflym a fforddiadwy yn foethusrwydd, mae’n rhywbeth hanfodol. Ac o gofio fod cymaint o bobl yng nghefn gwlad Cymru yn cael trafferth sicrhau’r cysylltiad mwyaf sylfaenol hyd yn oed, addewid o’r fath oedd y peth lleiaf y gallem ni ei gynnig.
Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ailymrwymo’n syth i’w haddewid i sicrhau band eang cyflym i bawb erbyn 2025. Ychwanegwch eich enw heddiw.