Ymchwilydd & Swyddog y Cyfryngau i William Powell AC (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Ystod cyflog: £19,684 i £28,856 (Band 2)
(Noder mai ar waelod yr ystod cyflog y byddwn yn recriwtio fel arfer.)
Oriau gwaith: 37 awr
Lleoliad: Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd
Mae William Powell yn chwilio am unigolyn brwdfrydig sy'n medru ysgogi ei hun ac sydd â diddordeb brwd mewn gwleidyddiaeth, i ddarparu gwasanaethau ymchwil o'r radd flaenaf, yn enwedig ym maes ei bortffolio presennol, yr Amgylchedd a Materion Gwledig. Bydd y rôl hefyd yn cynnwys darparu cymorth er mwyn cynnal proffil uchel o fewn y cyfryngau rhanbarthol. Mae e'n chwilio am unigolyn sy'n gallu meddwl yn greadigol ac sydd wedi ymrwymo i ddatblygu syniadau newydd i hybu arloesedd ac adnabod cyfleon i fod yn rhan o waith ymchwil allweddol.
Manyleb y Person
- Profiad o weithio'n uniongyrchol gydag ystod eang o bobl mewn amgylchedd o bwysau
- Profiad o ddarparu gwaith ymchwil neu waith briffio mewn amgylchedd seneddol neu amgylchedd tebyg
- Y gallu i weithio mewn tîm sydd wedi'i wasgaru ar draws sawl safle
- Tystiolaeth o sgiliau dadansoddi da, gan gynnwys y gallu i grynhoi amrywiaeth eang o safbwyntiau yn gywir, a'r gallu i nodi materion allweddol yn gyflym o amrywiaeth o ffynonellau gwybodaeth
- Sgiliau cyfathrebu effeithiol, yn ysgrifenedig, dros y ffôn ac wyneb-yn-wyneb ag ystod eang o randdeiliaid, yn ddelfrydol Aelodau'r Cynulliad ac arweinwyr eraill
- Sgiliau trefnu effeithiol a'r gallu i gymhathu a darparu gwybodaeth friffio gywir a diduedd i derfynau amser tyn
Rydym yn eich cynghori i ddarllen manyleb lawn y swydd a'r person cyn gwneud cais am y swydd hon
Am fwy o wybodaeth ac am ffurflen gais e-bostiwch [email protected] neu ffoniwch 01686 625527.
I wneud cais, anfonwch eich ffurflen gais a'ch llythyr eglurhaol (CV yn ddewisol) at [email protected]
Dyddiad cau: 11 Rhagfyr 2014: 12.00
Dyddiad y cyfweliad: Wythnos yn dechrau 15 Rhagfyr 2014