Mae’r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, heddiw yn lansio gwobrau dysgu newydd ar gyfer Cymru i ddathlu ymroddiad a gwaith caled athrawon a sut maent yn ysbrydoli disgyblion.
Bydd Gwobrau Dysgu Proffesiynol Cymru yn cydnabod goreuon y maes yn ysgolion led-led Cymru. Gall disgyblion, rhieni ac ysgolion enwebu pobl broffesiynol ym maes addysg, yngyhd ag ysgol cyfan, ar gyfer y gwobrau.
Caiff y buddugwyr eu cyhoeddi mewn digwyddiad arbennig yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd, dydd Sul 7 Mai 2017.
Gallwch enwebu pobl ar-lein ar gyfer pump categori:
-
Athro / athrawes y flwyddyn.
-
Pennaeth y flwyddyn.
-
Gwobr am hyrwyddo lles disgyblion a/neu gynhwysiant mewn ysgol.
-
Gwobr am gefnogi athrawon a dysgwyr.
-
Gwobr i ysgol gyfan am hyrwyddo perthynas dda â rhieni a’r gymuned.
Dywedodd Llefarydd Sgiliau a Dysgu Gydol Oes, Barwness Chrstine Humphreys;
“Mae bod yn athro yn waith pwysig ofnadwy fel rhan o feithrin plant uchelgeisiol, creadigol a galluog.
“Mae’r gwobrau newydd yma yn gyfle i ni ddangos gwerth yr proffesiwn yng Nghymru, i ddiolch i’n athrawon a chydnabod y dysgu ac arweiniad gorau yn ein hysgolion.
“Mae Kirsty Williams, yn y Llywodraeth, yn bencampwr dros y proffesiwn yma yng Nghymru.”