Mae etholiadau'r Senedd yn 2021 yn dyngedfennol i Gymru ac i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru. Mae'r coronafeirws wedi newid popeth. Mae ar Gymru angen syniadau beiddgar a radical a fydd yn ailosod y diawl ac yn adeiladu Cymru decach, fwy Rhyddfrydol. Mae angen cynnig Rhyddfrydol unigryw a radical ar Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru os ydym am sefyll allan yn y dorf a dychwelyd grŵp Democratiaid Rhyddfrydol Cymru i'r Senedd fis Mai nesaf.
Allwch chi helpu?
Bydd disgwyl i’r gweithgorau polisi ystyried dros gyfnod o dri i bedwar mis rhai o'r heriau allweddol sy'n wynebu bywydau bob dydd pobl; ein heconomi, ein gwasanaethau cyhoeddus a'n gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, ac yn cynhyrchu adroddiadau seiliedig ar dystiolaeth ac atebion polisi a fydd yn denu sylw ac yn gyrru ymgyrchu cenedlaethol, rhanbarthol a lleol.
Rydym yn gwahodd yr aelodau i gymryd rhan.
Rydyn ni'n chwilio am fwy nag arbenigedd polisi yn unig-os ydych chi wedi gweithio fel gweithiwr allweddol, os ydych chi wedi profi furlough, os oes gennych chi brofiad uniongyrchol o ddarparu neu ddefnyddio gwasanaethau, neu os ydych chi'n rhedeg busnes, rydym am glywed gennych. Mae profiad byw'r un mor bwysig â gwybodaeth am bolisi, a byddem yn eich annog yn gryf i wneud cais.
Ar hyn o bryd rydym yn gwahodd Aelodau'r blaid i wneud cais i fod yn aelodau o'r gweithgorau polisi canlynol:
- Gwaith a Lles ôl-COVID
- Economi a Threthiant
- Iechyd Gofal Cymdeithasol ac Iechyd Cyhoeddus
- Gwasanaethau Cyhoeddus a Llywodraeth Leol
Gwnewch cais i gymryd rhan mewn gweithgor polisi |
Am fwy o wybodaeth gallwch gysylltu â'r Cyng. Rhys Taylor, Swyddog Gweithredol dros Datblygu Polisi (dros-dro)