Bydd Democratiaid Rhyddfrycol Cymru yn lansio ei faniffesto heddiw ar gyfer dyfodol gwell.
Mae Newid Dyfodol Cymru yn amlygu ein gweledigaeth a gobeithion i Gymru ar faterion wedi’u datganoli ac yn gynllun ar gyfer Cymru cryfach fel rhan o Deyrnas Unedig tecach.
Wrth wraidd ein maniffesto yw addewid i roi cytundeb terfynnol Brexit i refferendwm, gyda’r dewis i wrthod y cytundeb ac aros yn yr UE petaent ddim yn hoff o’r cytundeb a gynnigir.
Dywedodd Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru Mark Williams;
“Credwn mewn Cymru gref, agored a goddefgar ble mae’r dechrau gorau posib mewn bywyd i’n plant, ble mae gan bawb parch at ei gilydd, a ble mae’r economi yn gweithio er budd pawb. Dyna yw sail ein cynllun.
“Bydd cytundeb Brexit sâl, gyda Prydain yn gadael y Farchnad Sengl, yn drychinebus i ddyfodol ein plant, ein economi ac ein ysgolion a’n ysbytai.
“Etholiad ble gallwch lunio eich dyfodol eich hun yw hwn. Gall pleidlais dros Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru newid dyfodol Cymru.”