Disgrifiwyd cyn Brif Weinidog Cymru Rhodri Morgan fel "arweinydd carismatig a phersonol tu hwnt".
Yn ymateb i farwolaeth cyn Brif Weinidog Cymru, dywedodd Mark Williams;
“Byddwn yn cofio Rhodri Morgan am ei arweiniaeth gadarn yn ystod blynyddoedd cynnar datganoli, gan sefydlu sail gref i wleidyddiaeth Cymru. Yn ystod cyfnod anodd i ddatganoli Cymru, adeiladodd clymblaid i wireddu addewid datganoli.
“Caiff Rhodri ei gofio fel arweinydd carismataidd a phersonol tu hwnt, ac mae’r geiriau cynnes rydym wedi clywed heddiw yn dangos gwir parch ac edmygedd i Rhodri.
“Byddwn yn gweld eisiau Rhodri, a chydymdeimlaf gyda teulu a ffrinidiau Rhodri yn ystod y cyfnod anodd hwn.”