Dylai pawb cael byw eu bywyd heb gasineb, rhagfarn a gwahaniaethu.
Yn anffodus, ar gyfer nifer o bobl Traws, nid yw hynny’n wir. Llynedd bu mwy na threian o bobl traws yn y DU’n ddioddef o drosedd casineb.
Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru’n mynnu gwell ar gyfer pobl Traws:
-
Addysg perthnasoedd a rhyw gynhwysol
Mae Ysgrifennydd Addysg y Dem Rhydd, Kirsty Williams yn cyflwyno cwricwlwm newydd sy’n dysgu am rywedd, rhywioldeb a chaniatâd.
-
Gwella gofal iechyd
Creu Clinig Hunaniaeth Rywedd yng Nghymru a chyflwyno rhaglen hyfforddiant traws-gynhwysol ar gyfer gweithwyr iechyd.
-
Hawliau cydradd i bawb
Rhoi diwedd i’r feto briodasol, tynnu nodwyr rhywedd diangen oddi ar ddogfenni, a diwygio’r Ddeddf Cydnabod Rhywedd.