Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn ymgyrchu i gadw trwyddedau teledu am ddim i bobl dros 75 oed.
Mae'r Llywodraeth Geidwadol wedi dileu trwyddedau teledu am ddim o 1 Awst, a fydd yn effeithio ar dros 165,000 o drigolion hŷn yng Nghymru. Rydym i gyd yn gwybod pa mor bwysig y gall teledu fod i breswylwyr oedrannus, gan ddarparu profiadau cymdeithasol a gwybodaeth gyhoeddus hanfodol.
Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol eisiau gweld y Llywodraeth yn camu i mewn a darparu cyllid i adfer trwyddedau am ddim o ystyried yr argyfwng sy'n ein hwynebu. Rydym hefyd yn galw am gorff annibynnol i adolygu ffi'r drwydded wrth symud ymlaen.
Yn ystod y pandemig, mae’r teledu wedi bod yn achubiaeth i lawer o drigolion oedrannus sydd wedi cymryd cyngor y llywodraeth ac wedi aros gartref.
Rydym yn galw ar y Llywodraeth i adfer y trwyddedau teledu am ddim i bobl dros 75 oed.