Bydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn blaenoriaethu adfywiad economaidd yn y pum mlynedd nesaf o lywodraeth leol.
Cefnogi a galluogi busnesau bach i lunio ac arwain eu blaenoriaethau nhw ac adfywio canol trefi a strydoedd mawr sydd wrth wraidd creu cymunedau cryfach.
Dywedodd, Mark Williams AS;
“Hoffwn weld pob cymuned yn elwa o dwf economaidd i’n galluogi i ddarparu gwasanaethau lleol cynaliadwy i bawb.
“Mae angen syniadau gwreiddiol ac egni newydd ar ein neuaddau sir i greu awyrgylch croesawgar sy’n denu pobl i ymweld â’n strydoedd mawr a chanol trefi. Boed hynny drwy ddarparu gwell llwybrau trafnidiaeth gyhoeddus, cymell parcio canol tref, gwella’n isadeiledd digidol, neu edrych ar strategaethau caffaeliad gyda phwyslais ar fusnesau bach a chanolig.
“Bydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn darparu busnesau lleol â’r offer sydd ei hangen i arwain ar dwf economaidd yn ein cymunedau trwy weithio â nhw.
“Credwn fod dyfodol gwell yn bosib - Cymru sydd â chymunedau cryf gyda chefnogaeth gwasanaethau cyhoeddus effeithiol gyda phobl leol wrth y llyw.”