Ers gormod o amser, mae gormod o bobl ifanc ledled Cymru wedi cael bargen annheg. Mae diffyg tai fforddiadwy, rhagolygon cyfyngedig am swyddi, a diffyg seilwaith digidol yn gorfodi llawer ohonynt i adael er mwyn datblygu bywyd gwell iddynt hwy a’u hanwyliaid.
Fel rhan o blatfform Blaenoriaethu’r Adfywiad, rydym ni wedi ymrwymo i ddatblygu dyfodol gwell a mwy disglair i bobl ifanc ledled Cymru. Bydd ein cynllun yn buddsoddi yn eu dyfodol, gan sicrhau y cânt gyfleoedd i dyfu a ffynnu yn eu cymunedau.
Yn yr etholiad hwn, ni yw’r unig blaid sydd wedi cyhoeddi maniffesto ieuenctid penodol – yn hysbysu pobl ifanc yn uniongyrchol ynghylch beth wnawn ni wneud iddynt hwy.
Darllenwch y maniffesto isod.